Joe Biden yn galw am reolau llymach dros werthu arfau
03/06/2022Mae Joe Biden, Arlywydd yr UDA, wedi galw am reolau mwy llym dros werthu arfau yn ei wlad.
Galwodd Mr Biden am gyfyngiadau newydd fyddai'n cynnwys yr angen i fod yn 21 oed cyn bod modd prynu arfau awtomatig grymus fel drylliau AR-15.
Dyma'r math o ddryll gafodd ei ddefnyddio mewn dau ymosodiad angheuol yn yr UDA dros y dyddiau diwethaf.
Bu farw 19 o blant a dau athro mewn ymosodiad yn Uvalde, Texas, a 10 o bobl mewn archfarchnad yn Buffalo, Efrog Newydd.
Dynion 18 oed gyda drylliau AR-15 oedd yn gyfrifol am y ddau ymosodiad.
Mewn anerchiad o'r Tŷ Gwyn, gofynnodd yr Arlywydd Biden 'faint yn rhagor o laddfa yr ydym yn fodlon ei ddioddef?'
Darllenwch ragor yma.
Llun: Gage Skidmore
