Dug a Duges Caergrawnt yn ymweld â Chaerdydd yn ystod dathliadau'r jiwbilî
Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi ymweld â Chastell Caerdydd ddydd Sadwrn i gyfarfod perfformwyr a'r criw sy'n perfformio yng nghyngerdd Jiwbilî yn hwyrach yn y dydd.
Yn ystod eu hymweliad, roedd y Dug a'r Dduges yn dystion i ymarferion ac wedi cwrdd â rhai o'r perfformwyr sy'n rhan o'r dathliadau.
Bydd nifer o sêr Cymreig yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad dan arweiniad y cyflwynwyr Aled Jones a Shân Cothi.
Bydd Bonnie Tyler, Mike Peters o'r Alarm, seren y West End John Owen Jones, y cyflwynydd tywydd a'r drymiwr Owain Wyn Evans yn perfformio gydag eraill.
Fe fydd Côr Meibion Pendyrus yn perfformio yn ogystal â chôr plant mawr sydd yn dod at ei gilydd am yr achlysur.
Mae disgwyl perfformiadau o glasuron gan Tom Jones, Shirley Bassey a Shakin' Stevens.
Ni fydd y Dug a'r Dduges yn mynychu'r gyngerdd gan bod yn rhaid iddynt deithio yn ôl i Lundain.
Roedd y gyngerdd yn dechrau am 15:00 ac yn disgwyl gorffen erbyn 19:00.
So lovely to meet the stars and team behind tonight’s concert. We had an extra special drum demonstration for George and Charlotte, saw a stunning performance from the Wales Youth Choir for Good and had a sneak peak at how the show will come together.
— The Duke and Duchess of Cambridge (@KensingtonRoyal) June 4, 2022
Have a great time! 🏴 pic.twitter.com/CDHJAdnt0A
Llun: Mario Sánchez Prada/Flickr