Andrew RT Davies yn beirniadu gwrthwynebwyr Boris Johnson am 'opera sebon'

02/06/2022
Andrew RT Davies - Ceidwadwyr Cymreig (YouTube)

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu gwrthwynebwyr Boris Johnson am greu "opera sebon".

Yn ôl Andrew RT Davies, y blaid Geidwadol yw "gelyn mwyaf" y blaid Geidwadol yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Mr Davies mewn erthygl ar wefan ConservativeHome ei bod hi'n "ddealladwy fod pobl wedi'u hypsetio gan ddigwyddiadau yn Downing Street".

Ond fe ychwanegodd fod y Prif Weinidog yn iawn i fod wedi "cymryd cyfrifoldeb llawn" a'i bod hi'n bryd "bwrw ymlaen" â'u dyletswyddau.

Dywedodd fod pleidleiswyr am weld y blaid yn ymateb i gynnydd mewn costau biliau ynni, yn hytrach na'r "seicodrama" o bwy sydd wedi cyflwyno llythyr o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Mr Johnson.

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai bob amser "gwahaniaeth barn" o fewn y blaid ond bod angen canolbwyntio ar redeg y wlad.

Dywedodd hefyd fod "pawb yn gwybod" nad yw pethau'n "berffaith" ar hyn o bryd a'i bod hi'n bwysig i fod yn feirniadol.

Llun: Ceidwadwyr Cymreig/YouTube

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.