Y Frenhines yn diolch i'r genedl wrth i benwythnos y Jiwbilî ddechrau

02/06/2022
S4C

Mae llun swyddogol o’r Frenhines wedi’i ryddhau cyn y dathliadau i nodi ei Jiwbilî Platinwm.

Cafodd y portread ei dynnu gan Ranald Mackechnie yn Vestibule Victoria yng Nghastell Windsor yn gynharach eleni.

Yn ei neges Jiwbilî diolchodd y Frenhines i bobl am drefnu digwyddiadau i ddathlu ei charreg filltir, gan ddweud y byddai "llawer o atgofion hapus" yn cael eu creu.

Ychwanegodd: “Rwy’n parhau i gael fy ysbrydoli gan yr ewyllys da a ddangoswyd i mi, ac yn gobeithio y bydd y dyddiau nesaf yn gyfle i fyfyrio ar bopeth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y 70 mlynedd diwethaf, wrth i ni edrych i’r dyfodol gyda hyder a brwdfrydedd.”

Y Frenhines Elizabeth yr Ail yw’r Frenhines gyntaf yn hanes Prydain i ddathlu Jiwbilî Platinwm.

Bydd dathliadau yn cael eu cynnal ar draws Prydain er mwyn nodi 70 mlynedd ers dechrau teyrnasiad Y Frenhines.

Llun: Twitter @RoyalFamily

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.