Menyw yn ei 30au wedi marw mewn stiwdio lliw haul yn Abertawe

Mae menyw yn ei 30au wedi marw mewn salon lliw haul yn ardal Fforest-fach o Abertawe.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Stiwdio Lextan ar Heol Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 28 Mai am ychydig wedi 16:00.
Nid yw'r heddlu'n credu fod y farwolaeth yn un amheus ac mae'r crwner wedi ei hysbysu am y farwolaeth.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Google