Tân yn dinistrio clwb bowlio ger Bargoed yn Sir Caerffili
01/06/2022
Mae tân wedi dinistrio adeilad clwb bowlio'r Gilfach ger Bargoed yn Sir Caerffili fore dydd Mercher.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ei alw i'r digwyddiad am 06:53 ac fe aeth criwiau yno o Aberbargoed, Pontypridd a Chaerffili.
Mewn datganiad, dywedodd y Gwasanaeth Tân fod swyddogion yn defnyddio offer arbenigol i ddiffodd y fflamau.
Mae rhai ffyrdd ar gau ger lleoliad y digwyddiad ac mae trigolion lleol yn cael eu cynghori i gadw ffenestri a drysau ar gau gan fod mwg yn ymledu o'r safle.
Mae ymgyrch godi arian wedi ei dechrau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn ceisio ail-adeiladu'r adeilad.