Dau yn eu harddegau wedi marw a dau wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad yn Abertawe
Mae dau berson yn eu harddegau wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe nos Fawrth.
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i ddyn 19 oed o Landŵr a menyw 19 oed o Flaenymaes farw yn y fan a'r lle.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 23:15 nos Fawrth ger Garej Northway, Llandeilo Ferwallt.
Roedd un cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, sef Alfa Romeo Mito coch oedd yn cludo pedwar person.
Fe gafodd merch 17 oed o Benlan ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau sy'n peryglu ei bywyd.
Cafodd bachgen 17 oed o'r Gellifedw ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.
Mae'r teuluoedd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Bu'r ffordd ar gau am nifer o oriau tra bo ymchwiliadau'n cael eu cynnal.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a fedrai fod o gymorth i'r swyddogion gyda'u hymchwiliad i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 2200182514.