Gareth Bale: Chwarae i Real Madrid yn 'anrhydedd' wrth iddo adael y clwb
Mae Gareth Bale wedi diolch i Glwb Pêl-droed Real Madrid wedi iddo adael y clwb.
Yn ôl Bale, roedd chwarae dros ei glwb yn "anrhydedd".
Mae seren pêl-droed Cymru wedi diolch i'w gyd-chwaraewyr, rheolwyr, staff ystafell gefn ac i'r cefnogwyr a ddangosodd cefnogaeth iddo.
Fe ymunodd Bale â'r clwb naw mlynedd yn ôl.
Dywedodd fod chwarae i Real Madrid yn brofiad "na fydd byth yn anghofio".
It has been an honour. Thank you! #HALAMADRID @RealMadrid pic.twitter.com/T7FL2LNRrD
— Gareth Bale (@GarethBale11) June 1, 2022
Mae Bale wedi derbyn cryn feirniadaeth gan garfannau o gefnogwyr Real Madrid.
Ond bellach, mae'n edrych am dîm newydd, gyda thipyn o ddarogan am ba glwb fydd e'n ymuno ag e.
Am nawr, mae ei olygon ar rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd ddydd Sul.
Llun: Gareth Bale / Twitter