Syr Keir Starmer ac Angela Rayner yn derbyn holiaduron gan Heddlu Durham

Mae arweinydd a dirprwy arweinydd y blaid Lafur wedi derbyn holiaduron gan Heddlu Durham yn sgil honiadau am dorri rheolau Covid-19 ym mis Ebrill 2021.
Fe ddaeth cadarnhad nos Fawrth fod Syr Keir Starmer ac Angela Rayner wedi derbyn yr holiaduron wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae'r ddau wedi dweud y byddent yn ymddiswyddo os y caiff dirwy ei chyflwyno gan yr heddlu.
Cafodd Syr Keir Starmer ei ffilmio yn yfed mewn digwyddiad adeg is-etholiad yn Durham, digwyddiad sydd wedi ei enwi gan rai fel "beergate".
Darllenwch fwy yma.
Llun: Rwendland