Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru i gael ei ail-lansio
Fe fydd theatr ieuenctid yr Urdd yn cael ei ail-lansio.
Fe ddaeth Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru i ben yn 2019 ar ôl cael ei sefydlu yn yr 1970au.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £1 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd ar gyfer y theatr.
Daw'r cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg y llywodraeth, Jeremy Miles, ar drydydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd.
Dyma’r tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal ar faes ers 2019 yn sgil pandemig Covid-19.
Mae'r mudiad ieuenctid hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed eleni.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy’n falch ein bod ni’n gallu cefnogi’r Urdd i ail-sefydlu’r Theatr Ieuenctid, a fu’n darparu cyfleoedd i gynifer o actorion ifanc dros genedlaethau, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen i enwogrwydd byd-eang.
“Bydd y theatr yn parhau â’i thraddodiad o ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir i weithio gyda goreuon y theatr, gan agor byd y ddrama Gymraeg i gynulleidfa newydd sbon drwy gysylltiadau cymunedol cryf yr Urdd.”
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeremy Miles am gadarnhau cefnogaeth parhaus Llywodraeth Cymru i’r Urdd fel Mudiad, drwy sicrhau dyfodol Theatr Ieuenctid yr Urdd am y pum mlynedd nesaf.
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi strategaeth y Llywodraeth i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn benderfynol o gynnal a datblygu ar werth canrif o’n gwasanaeth a darpariaeth i blant a phobl ifanc Cymru ymhell i’r dyfodol.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn parhau yn Sir Ddinbych drwy'r wythnos gan ddod i ben ddydd Sadwrn.