Rhyfel Wcráin: Ymladd ffyrnig am reolaeth o ddinas Sievierodonetsk
31/05/2022Mae lluoedd Rwsia wedi parhau gyda'u hymosodiad ar ddinas strategol bwysig Sievierodonetsk yn nwyrain Wcráin ddydd Mawrth.
Mae asiantaeth newyddion TASS yn Rwsia wedi adrodd fod hyd at un rhan o dri o diriogaeth y ddinas bellach yn nwylo byddin Rwsia.
Mae Sievierodonetsk yn un o ddinasoedd mwyaf rhanbarth Luhansk, ac fe fyddai buddugoliaeth i Rwsia yma yn un arwyddocaol wrth iddi geisio gorchfygu byddin Wcráin yn y rhanbarth.
Mae Asiantaeth Ffoaduriaid Norwy wedi amcangyfrif y gallai hyd at 12,000 o sifiliaid fod dan warchae yn y ddinas wrth i'r brwydro barhau.
Darllenwch ragor yma.