Josh Osborne yn ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd
Josh Osborne o Poole sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Dinbych 2022 eleni.
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd mewn coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.
Anna Ng o Gaerdydd yw enillydd Medal Bobi Jones.
Mae Medal Bobi Jones yn fedal gymharol newydd i ddysgwyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd, a wobrwywyd yn gyntaf yn 2019. Mae’r fedal yma yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones fel ei gilydd yw gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.
Diwrnod o dasgau
Mae’r ddau yn ennill eu medalau ar ôl diwrnod o dasgau, a osodwyd i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y cystadleuwyr terfynol.
Roedd hyn yn cynnwys paratoi postiad i gyfryngau cymdeithasol Eisteddfod yr Urdd, gwneud sesiwn holi ac ateb gyda Llywydd y Dydd, Robat Arwyn ynghyd â chyfweliad gyda beirniad y gystadleuaeth.
Daw enillydd Medal y Dysgwyr, Josh, 24 oed, yn wreiddiol o Poole yn Dorset, ac mae bellach yn byw yn Abertawe.
Fo yw’r unig berson o’i deulu sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n diolch i’w gariad Angharad am ei ysbrydoli i gychwyn dysgu’r iaith gwta ddwy flynedd yn ôl.
Meddai Josh: “Dw i’n dysgu Cymraeg ers tua dwy flynedd bellach, ers i Angharad yrru dolen ata’i i gwrs dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Mae fy niolch yn fawr i dri thiwtor, Helen Prosser, Angharad Devonald a Maldwyn Pate - diolch iddyn nhw, dw i’n gwneud yr arholiad uwch blwyddyn yma, ac yn medru edrych ymlaen at gael cymdeithasu a dod i adnabod mwy a mwy o bobl sy’n siarad Cymraeg.”
Beirniad Medal y Dysgwyr oedd Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price. Rhoddir Medal y Dysgwyr gan Glwb Rotari Dinbych, a noddwyd y seremoni gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae enillydd Medal Bobi Jones, Anna Ng, yn 18 oed ac yn mynychu Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae hi wrthi’n astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg ar gyfer ei Lefelau A, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Mae ei chefndir yn un diddorol, gyda’i thad yn dod o Tseina a’i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna’r Alban. Mae mam Anna hefyd wedi dysgu'r Gymraeg, ac oherwydd bod ei mam yn ddall, wedi llwyddo i wneud hynny drwy gyfrwng Braille.
Y ddwy gystadleuydd arall a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones oedd dwy ffrind o Ferthyr Tudful, Millie-Rae Hughes (ail) a Deryn-Bach Allen-Dyer (trydydd), a beirniaid y gystadleuaeth oedd Siân Vaughan a Stephen Mason.
'Byrlymu ar dafodau newydd'
Noddir seremoni a Medal Bobi Jones gan Brifysgol Caerdydd, ac meddai Dirprwy Is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Damian Walford Davies: “Yng ngŵyl y canmlwyddiant, braint and phleser inni ym Mhrifysgol Caerdydd yw noddi seremoni’r Fedal sy’n dwyn enw’r dysgwr o Gaerdydd a wnaeth sut gymaint i rannu’r iaith ag eraill. Rhannwn y gwerthoedd y mae’r fedal honno yn eu dathlu: ymrwymiad i’r iaith a balchder wrth ei chlywed yn byrlymu ar dafodau newydd.”
Meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Wrth i’r Ganolfan baratoi i gynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed o fis Medi 2022 ymlaen, mae’n bleser cydweithio gyda’r Urdd i ddathlu llwyddiannau siaradwyr newydd ifanc y Gymraeg. Llongyfarchiadau enfawr i Josh am ennill Medal y Dysgwyr, ac i Anna, enillydd Gwobr Bobi Jones – ’dyn ni’n siŵr bydd eu straeon yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i fynd ati i fwynhau dysgu a siarad y Gymraeg.”