Andrea Leadsom yn cyhuddo Boris Johnson o 'fethiannau annerbyniol yn ei arweinyddiaeth'

Cyn-weinidog y Cabinet, y Fonesig Andrea Leadsom, ydy'r aelod Ceidwadol blaenllaw diweddaraf i feirniadu Boris Johnson am "fethiannau yn ei arweinyddiaeth" yn sgil partïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Mewn llythyr i'w hetholwyr, dywedodd y Fonesig Andrea mai ei chanfyddiadau o adroddiad Sue Gray ydy bod yna "fethiannau annerbyniol yn ei arweinyddiaeth na ellir eu caniatáu."
"Mae'n rhaid i bob un o’m cyd-aelodau Ceidwadol benderfynu yn unigol, ar ffyrdd o symud ymlaen ac adfer hyder yn ein llywodraeth."
Mae'r sylwadau yn ergyd arall i Boris Johnson wedi i sawl AS Ceidwadol ofyn iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn sgil canfyddiadau ymchwiliad Ms Gray yr wythnos ddiwethaf.
Daw hyn wrth i AS Ceidwadol arall, John Stevenson, arwyddo llythyr di-hyder yn y Prif Weinidog ddydd Mawrth.
Hyd yma, mae 28 o Aelodau Seneddol wedi galw yn gyhoeddus ar Mr Johnson i ildio'r awenau. Ond dyw pob un ohonynt ddim wedi datgan os ydyn nhw wedi llofnodi llythyr at gadeirydd Pwyllgor 1922.
Mae angen 54 llofnod er mwyn cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Flickr