Yr Alban v Wcráin: Darganfod gwrthwynebwyr Cymru
Yr Alban v Wcráin: Darganfod gwrthwynebwyr Cymru
Hir yw pob ymaros, ond erbyn nos Fercher, bydd Cymru yn gwybod yn erbyn pwy fyddan nhw'n chwarae yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd ddydd Sul.
Fe fydd Yr Alban yn chwarae yn erbyn Wcráin ym Mharc Hampden yn Glasgow yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, gyda'r gic gyntaf am 19:45.
Roedd y gêm i fod i gael ei chwarae ym mis Mawrth, ond yn sgil ymosodiad milwrol Rwsia ar Wcráin, roedd yn rhaid gohirio.
Ond pwy ydy'r ffefrynnau?
Bydd tîm Steve Clarke yn dyheu i fod un cam yn agosach at gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1998.
Yn ddiguro mewn wyth gêm, bydd mantais gartref yn sicr yn hwb i'r Albanwyr.
Ni fydd amddiffynnwr Arsenal, Kieran Tierney, yn opsiwn i'r Alban yn dilyn anaf i'w ben-glin, a bydd yn rhaid i Steve Clarke wirio lefelau ffitrwydd y capten, Andy Robertson, yn ogystal â Scott McKenna ar ôl iddyn nhw chwarae yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr a rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth dros y penwythnos.
Ar y llaw arall, mae'r mwyafrif o garfan Wcráin wedi eu lleoli yn eu gwlad brodorol ac felly ddim wedi gallu chwarae i'w clybiau ers i'r rhyfel ddechrau ym mis Chwefror.
Mae'r garfan wedi bod yn ymarfer yn Slofenia er mwyn paratoi at y gêm fawr yn erbyn Yr Alban.
Bydd chwaraewr canol cae, Manchester City, Oleksandr Zinchenko yn hollbwysig i Wcráin wrth iddyn nhw geisio tawelu stadiwm orlawn Hampden yn ogystal ag ymosodwr West Ham, Andriy Yarmoleno, sydd wedi sgorio 44 gôl mewn 100 gêm dros ei wlad.
Yn sgil yr amgylchiadau eithriadol, mae hi'n anodd rhagweld sut y bydd y gêm yn cael ei chwarae, a phwy fydd y tîm cryfaf.
Mae mantais gartref a'r freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd yn fanteisiol i'r Alban, tra bod chwaraewyr amryddawn Wcráin a'r holl emosiwn yn sgil y rhyfel yn gymhelliant yn ei hun.
Pwy bynnag fydd gwrthwynebwyr Cymru, mae un peth yn sicr - bydd Stadiwm Dinas Caerdydd o dan ei sang ddydd Sul yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Wcráin