Newyddion S4C

Pob sedd pafiliwn ar gael i'w defnyddio yn Eisteddfod yr Urdd

31/05/2022
Eisteddle

Bydd pob sedd ar gael i'w defnyddio yn nhri phafiliwn Eisteddfod yr Urdd o ddydd Mawrth ymlaen yn dilyn trafferthion yn sgil prinder seddi ar y maes ddydd Llun.

Mewn datganiad, dywedodd yr Urdd bod "holl seddi tri phafiliwn Eisteddfod yr Urdd bellach ar gael at ddefnydd cynulleidfaoedd yr ŵyl. Mae’r trefnwyr yn diolch i bawb am eu dealltwriaeth ddoe."

Fe gododd trafferthion ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych 2022, ar ôl i ran o eisteddleoedd y tri phafiliwn orfod cau i'r cyhoedd am resymau iechyd a diogelwch.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd yr Urdd fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dweud yn hwyr nos Wener nad oedd modd "defnyddio seddau sydd ar oledd gan ein contractwyr - Austen Lewis Ltd, yn ein tri phafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd hyd nes y clywir yn wahanol."

Fe wnaeth hyn olygu nad oedd modd defnyddio oddeutu mil o seddi yng nghefn y tri phafiliwn. 

Ar ôl bwlch oherwydd y pandemig, eleni am y tro cyntaf, mae tri phafiliwn ar y maes. Does dim rhagbrofion ac mae mynediad am ddim i'r maes.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.