Newyddion S4C

Yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno i wahardd rhan fwyaf o fewnforion olew o Rwsia

Sky News 31/05/2022
Undeb Ewropiaidd

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i wahardd 75% o fewnforion olew o Rwsia a hynny mewn ymgais i "rwystro ymgyrch rhyfel" Vladimir Putin. 

Cafodd cynlluniau i wahardd holl fewnforion o Rwsia eu cyhoeddi yn gynharach yn y mis. Ond bu rhaid i'r UE wneud eithriadau ar gyfer gwledydd sydd yn dibynnu ar olew o Rwsia. 

Bydd yr undeb nawr yn gwahardd holl fewnforion o'r môr, ond yn parhau i alluogi mewnforion o bibellau ar gyfer gwledydd fel Hwngari, Slofacia a Bwlgaria. Maen nhw yn wledydd sydd wedi codi pryderon ynglŷn ag effaith economaidd gwahardd mewnforion yn llwyr. 

Mae disgwyl i'r UE wahardd 90% o fewnforion olew o Rwsia erbyn diwedd y flwyddyn. 

Er hyn mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky wedi dweud nad yw'r sancsiynau gan wledydd y Gorllewin yn digwydd yn ddigon cyflym. Mae'n dweud bod angen i Rwsia "dalu pris uwch" yn sgil y rhyfel yn Wcráin. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.