
Saith mlynedd i leihau amseroedd aros GIG i lefelau cyn Covid
Mae adroddiad gan Archwilio Cymru wedi honni y bydd yn cymryd saith mlynedd i leihau amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd (GIG) i'r un lefelau a chyn y pandemig.
Yn yr adroddiad, dywedodd Archwilio Cymru fod rhaid i'r GIG yng Nghymru "wneud mwy" er mwyn osgoi niwed i gleifion wrth iddynt aros am driniaeth.
Dywed yr adroddiad bod targedau ar gyfer rhestrau aros wedi'u methu ers nifer o flynyddoedd ond bod y sefyllfa wedi gwaethygu'n sylweddol yn dilyn y pandemig.
Ym mis Chwefror 2022 roedd bron i 700,000 o bobl yn aros am driniaeth, cynnydd o 50% ers mis Chwefror 2020.
Yn ôl yr adroddiad, mae dros hanner o rain yn gleifion allanol sydd heb dderbyn eu hapwyntiad cyntaf eto ac felly ddim yn gwybod pa fath o salwch sydd ganddynt. Mae hyn wedyn yn achosi sialensiau wrth flaenoriaethu triniaeth.
Ychwanegodd Archwilio Cymru ei bod yn amcangyfrif bod tua 550,000 o apwyntiadau sydd wedi cael eu cyfeirio ar goll o fewn systemau'r GIG.
Gallai hynny beri ragor o broblemau os yw nifer helaeth ohonynt angen triniaeth ychwanegol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid sylweddol i fynd i'r afael â rhestrau aros yn dilyn y pandemig, gan wneud £200m ar gael i'r gwasanaeth iechyd ar gyfer 2020/21.
Ym mis Ebrill fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau hirdymor i leihau rhestrau aros, gan rhoi £185m ychwanegol am y pedair blynedd nesaf.
Er hyn, dywedodd adroddiad Archwilio Cymru nad oedd modd i'r GIG wario'r holl gyllid ychwanegol yn 2020/21 oherwydd problemau "capasiti staff, diffyg lle ffisegol a chapasiti preifat cyfyngedig."
O achos hyn mae'r adroddiad yn dweud bod rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â rhestrau aros heblaw arian ychwanegol.

Yn sgil yr adroddiad, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton: "Yn union fel yr ymatebodd y GIG i her y pandemig, bydd angen iddo ymateb i her mynd i’r afael â rhestr aros sydd wedi tyfu i faint anferth."
"Bydd angen gweithredu ar y cyd mewn sawl cyfeiriad gwahanol, a bydd angen goresgyn rhai heriau hir sefydlog."
"Trefnwyd fod arian ychwanegol ar gael a rhaid ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau bod dulliau teg ac wedi’u targedu sy’n diwallu anghenion gofal wedi’i gynllunio i bobl Cymru."
Dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Iechyd y Ceidwadwyr Cymraeg, Russell George, na fydd yr adroddiad yn "rhoi hyder i bobl Cymru" am y gwasanaeth iechyd.
"Does neb yn rhoi'r bai ar ddoctoriaid neu nyrsys. Ond mae yna ddiffyg cynllunio gan Lywodraeth Cymru sydd yn poeni fwy am gael mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn lle datrys y broblem anferthol o restrau aros yn y GIG."
"Gobeithio bydd yr adroddiad yma yn sbarduno Llywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth yn lle gadael y byrddau iechyd i wneud y gwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod arian ychwanegol sylweddol wedi ei rhoi i'r gwasanaeth iechyd a'i bod wedi gosod targedau "uchelgeisiol ond realistig" i daclo'r rhestrau aros.
"Mae ein cynllun adfer, gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf, yn amlinellu ein cynlluniau i ddatrys y pum argymhelliad yn yr adroddiad, gan gynnwys sut y byddwn yn cefnogi cleifion tra eu bod yn aros am driniaeth ac yn cynnal gweithlu cynaliadwy gydag arweinyddiaeth effeithiol."