Newyddion S4C

UEFA i gynnal adolygiad annibynnol o drafferthion cyn ffeinal pencampwyr Ewrop

31/05/2022
Stade de France

Fe fydd UEFA yn cynnal adolygiad annibynnol o'r trafferthion wynebodd cefnogwyr Lerpwl cyn ffeinal pencampwyr Ewrop nos Sadwrn. 

Roedd miloedd o gefnogwyr Lerpwl yn aros oriau cyn cael mynediad i'r Stade de France ym Mharis. Cafodd cic gyntaf y gêm yn erbyn Real Madrid ei gohirio fwy na hanner awr. 

Wrth i densiynau gynyddu, cafodd nwy dagrau a chwistrell pupur ei ddefnyddio gan heddlu Ffrainc.

Mae Gweinidog Mewnol Ffrainc wedi honni fod y trafferthion wedi'u hachosi gan "dwyll" ar raddfa fawr wrth i nifer o gefnogwyr Lerpwl geisio defnyddio ticedi ffug ar gyfer y gêm. 

Ond mae Clwb Pêl droed Lerpwl wedi gwadu honiadau Llywodraeth Ffrainc ac wedi bod yn gofyn am ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd. Dyna oedd galwad Llywodraeth Y Deyrnas Unedig hefyd. 

Bellach, mae UEFA wedi penodi Dr Tiago Brandao Rodrigues i gynnal adroddiad "cynhwysfawr" i'r hyn digwyddodd. 

Bydd yr adroddiad yn archwilio'r penderfyniadau, cyfrifoldeb ac ymddygiad y rhai oedd yn gysylltiedig gyda'r gêm. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.