
Cyrraedd Cwpan y Byd 'yn werth tua £8 miliwn' i bêl-droed Cymru
Cyrraedd Cwpan y Byd 'yn werth tua £8 miliwn' i bêl-droed Cymru
Fe allai pêl-droed Cymru elwa o £8 miliwn petai nhw yn llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar a dod allan o'i grŵp.
A phebai nhw yn ail-adrodd llwyddiant Ewro 2016 a mynd yn bell yn y gystadleuaeth gallai hynny godi i o leiaf £38 miliwn, yn ôl ymgynghorwyr yn y maes.
Erbyn nos Sul nesa, fe fyddwn ni’n gwybod tynged tîm Robert Page.
“Ma' 'na ffi cyfranogi pan yn cystadlu mewn cystadlaethau fel Cwpan y Byd a'r Euros,” eglura Llyr Roberts, Ymgynghorydd UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Yn amlwg ma'r ffi hynny'n mynd lan wrth bo chi'n dod trwy'r camau allweddol mewn i'r rownd 16, rownd y cwarteri, a'r semis a'r ffeinal wrth gwrs.”

Yn ôl yr ymgynghorydd, gall cyrraedd y rowndiau terfynol gael effaith bellgyrhaeddol.
“Ma' 'na gyfle fan hyn i'r gymdeithas ac i Gymru ddatblygu'r brand, hynny yw, cyfle i'r gymdeithas wthio'r ochr pêl-droed, gwneud cysylltiadau newydd gyda chwmnïau newydd.
“Ond hefyd i Gymru, annog twristiaeth er enghraifft, annog mwy o bobl i ddod i mewn i Gymru a gwario arian yng Nghymru, felly ma' 'na gyfleoedd economaidd yn bendant.”
Mae cynnydd eisoes wedi bod yn y nifer sy’n dilyn pêl-droed yng Nghymru.
Bellach mae 47 y cant o Gymry’n dilyn y gem, cynnydd o 4% ers llwyddiant y cochion yn Ewro 2016.
Un sy’n gwybod yr effaith y gall cymhwyso ei gael ar wlad yw Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney.
“Fel Gwyddel pan wnaethon ni gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn 1990 fe drawsnewidiodd y genedl – nid yn unig o safbwynt pêl-droed, ond o safbwynt economaidd
“Rhoddodd hyder i'r genedl mewn ffordd na all dim byd arall.”
Ond i ba raddau all llwyddiant ar y cae pêl-droed hybu'r teimlad o genedligrwydd, o berthyn i genedl a bod yn falch ohoni ?
"Yn y blynyddoedd diwetha 'ma, mae'r llwyddiant mae'r tim cenedlaethol wedi'i gael ar y maes chwarae ochor yn ochor efo gwaith y gymdeithas bêl-droed wedi sicrhau bod 'na lot mwy o ddiddordeb erbyn hyn mewn pêl-droed yng Nghymru ac yn benodol yn y tim cenedlaethol" meddai'r hanesydd pêl-droed Meilyr Emrys.
"Yn bendant fysa cael chwara ar y llwyfan rhyngwladol mwya, sef Cwpan y Byd yn hyrwyddo'r syniad ein bod ni'n genedl arbennig ein hunain efo'n hunaniaeth a'n hiaith ein hunain, bod hynny'n gysylltiedig ac yn ganolog i lwyddiant ein tim pêl-droed ni."
Hwyrach mai cwestiwn di-ben draw ydy gofyn beth yw gwerth cyrraedd Cwpan y Byd. Efallai y byddwn ni, ymhen wythnos, yn dechrau dod yn gyfarwydd â'r ateb.