Newyddion S4C

Llwyddiant pêl droed yn 'hybu'r Gymraeg'

Llwyddiant pêl droed yn 'hybu'r Gymraeg'

NS4C 31/05/2022

Mae arbenigwr rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol yn dweud bod llwyddiant Cymru ar y cae pêl droed yn rhoi “hwb seicolegol, hwb ymarferol i’r Gymraeg.”

Yn ôl Colin Williams, sydd yn Athro er anrhydedd yn adran Gymraeg Prifysgol Caerdydd mae defnyddio’r iaith mewn achlysuron fel digwyddiadau chwaraeon yn rhoi “mwynhad” i bobl.

“Dwi’m yn siŵr pa dystiolaeth sydd ar gael. Ond yn reddfol dwi’n credu bod llwyddiant diweddar, yn enwedig yn y byd pêl droed falle yn rhoi hwb seicolegol, hwb ymarferol i’r Gymraeg o ran llwyddiant," meddao wrth Newyddion S4C. 

"A falle rhywbeth sydd ddim yn cael ei bwysleisio digon, mwynhad. Mae pobl yn mwynhau defnyddio’r Gymraeg mewn achlysuron tu hwnt i furiau ysgol.”

'Mwynhau defnyddio'r Cymraeg' 

Nos Sul bydd tîm cenedlaethol pêl droed y dynion yn ceisio cyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Qatar.

Os byddan nhw’n llwyddo fe fydd hyn o fantais i’r iaith yn y cyd-destun rhyngwladol, meddai'r Athro Williams. 

“Mae gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn llefydd fel Qatar, America neu Wcráin yn rhywbeth sydd yn gwneud hi yn fwy perthnasol o lawer ac yn fwy normal fel iaith gymdeithasol, iaith bob dydd etc.”

Image
Cymru
Mae'r Gymraeg wedi dod yn rhan bwysig o'r Wal Goch Llun: Asiantaeth Huw Evans 

Yn ei farn o, mae yna fomentwm tuag at yr iaith ac mae’n credu bod hunaniaeth y Cymry yn newid.

“Yn yr hen gyfundrefn sefydliadau oedd yn ein diffinio ni fel addysg, capel, eisteddfod. Erbyn hyn falle mae profiadau yn bwysig hefyd fel y gemau Olympaidd neu chwaraeon rhyngwladol.

"Ac felly mae defnyddio’r Gymraeg, nid trwy gyfrifoldeb moesol neu gymdeithasol ond oherwydd bod e’n ddefnyddiol i ddefnyddio hi yn bwysig o ran trosglwyddo’r iaith dwi’n credu achos mae pobl yn efelychu pobl eraill sydd yn cael eu gweld yn mwynhau defnyddio’r Gymraeg fwyfwy.”

Yn ôl yr Athro Williams, mae’r torf iau bellach yn hyderus yn llithro o’r Gymraeg i’r Saesneg, a hynny o fewn brawddegau.

Mae’n teimlo bod yna newid hefyd yn y meddylfryd bod rhaid siarad yr iaith yn gywir mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Y llynedd roedd yna ddadl ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i newyddiadurwr gyda Wales Online feirniadu safon iaith y sylwebydd a chyn chwaraewr pêl droed Cymru, John Hartson. Ond mae yna fuddion amlwg i ddefnyddio’r Gymraeg, medd yr Athro Williams.

“Mae’n talu i fod yn ddwyieithog fwyfwy yng Nghymru, boed yn y byd gwleidyddol, chwaraeon neu fyd busnes.

"Ac i fi dyna’r ateb i bobl, pam ddylid defnyddio’r Gymraeg? Wel mae’n bwysig oce ar un lefel yn symbolaidd.

"Ond hefyd yn talu yn ariannol ond o ran pobl yn cael eu derbyn i fod yn fwy cynhwysfawr, yn fwy dwyieithog ac mae hynny wrth gwrs yn beth da iawn.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.