Parafeddyg o Abertawe ar Love Island
Fe fydd parafeddyg o Abertawe yn chwilio am gariad yr haf hwn wrth iddi gamu i mewn i fila Love Island.
Mae'r Gymraes, Paige Thorne, wedi'i henwi fel cystadleuydd cyntaf cyfres ddiweddaraf y rhaglen ITV.
Dywedodd y parafeddyg 24 oed ei bod am ddod â llwyth o "egni positif" i'r fila ar gyfer y gyfres nesaf wrth iddi chwilio am bartner newydd.
Yn ôl Paige, mae wedi bod yn anodd ffeindio rhywun delfrydol yn Abertawe ac felly mae am "ehangu ei gorwelion" wrth ymuno a'r rhaglen.
Bydd Paige yn dilyn trywydd nifer o Gymry sydd wedi bod yn ffigyrau poblogaidd ar y rhaglen realiti gan gynnwys Dr Alex George yn 2018 ac enillydd y gyfres y llynedd, Liam Reardon.
Llun: ITV