'Tocynnau ffug' cefnogwyr Lerpwl yn gyfrifol am anhrefn medd gweinidog chwaraeon Ffrainc
Mae gweinidog chwaraeon Ffrainc wedi rhoi'r bai ar gefnogwyr Lerpwl am fynychu'r gêm heb docynnau dilys am yr anhrefn ddigwyddodd cyn ffeinal pencampwyr Ewrop ym Mharis ddydd Sadwrn.
Dywedodd Amélie Oudéa-Castéra bod y ffaith bod "Clwb Real Madrid wedi rheoli eu cefnogwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y stadiwm yn gyferbyniad llwyr gyda beth wnaeth Clwb Pêl-Droed Lerpwl, a wnaeth adael eu cefnogwyr i wneud beth oedden nhw eisiau.
"Beth ddigwyddodd oedd yr ymgasgliad torfol o gefnogwyr Prydeinig Clwb Pêl-droed Lerpwl a wnaeth geisio mynychu naill ai heb docyn neu un annilys."
Fe wnaeth hi siarad cyn cyfarfod gydag UEFA, swyddogion o'r stadiwm ac awdurdod pêl-droed o Ffrainc er mwyn dadansoddi'r golygfeydd treisgar cyn y gêm ddydd Sadwrn.
Cafodd nwy dagrau ei ddefnyddio ar gefnogwyr Lerpwl cyn y ffeinal yn erbyn Real Madrid gan ohirio cic gyntaf y gêm fwy na hanner awr.
Bravo @realmadrid pour ce 14è titre en #LigueDesChampions ! Les tentatives d’intrusion et de fraude de milliers de supporters anglais ont compliqué le travail des stadiers et des forces de police mais ne terniront pas cette victoire. La violence n’a pas sa place dans les stades.
— Amélie Oudéa-Castéra (@AOC1978) May 28, 2022
Mae Llywodraeth y DU a Chlwb Pêl-droed Lerpwl wedi galw am ymchwiliad ond does dim cadarnhad y bydd hyn yn digwydd.
Llun: Wikimedia Commons