Partygate: Gweinidog yn ‘hyderus’ nad oedd pwysau ar Sue Gray i newid adroddiad

Mae un o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “hollol hyderus” nad oedd unrhyw un yn Downing Street wedi dwyn pwysau ar Sue Gray i wneud newidiadau yn eu hadroddiad i bartïon yno yn ystod y cyfnod clo.
Mewn cyfweliad â Sky News dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Brandon Lewis ei fod yn “hyderus nad oedd Ms Gray yn medru cael ei dylanwadu gan unrhyw un.”
Mae plaid y Democratiaid Rhyddfrydol wedi honni fod swyddogion yn Downing Street wedi rhoi pwysau ar Ms Gray i newid eu hadroddiad.
Mae Downing Street wedi gwadu’r honiadau.
Darllenwch fwy yma.