Teyrngedau i’r cyn-joci Lester Piggott sydd wedi marw yn 86 oed

Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i’r cyn-joci Lester Piggott sydd wedi marw yn 86 oed.
Fe enillodd ei ras gyntaf yn 12 oed yn 1948 ac aeth ymlaen i farchogaeth 4,000 o enillwyr cyn ymddeol yn gyntaf yn 1985.
Roedd yn bencampwr 11 o weithiau ac wedi ennill 30 o glasuron gan gynnwys naw Derby.
Roedd yn cael ei ystyried yn un o’r jocis gorau erioed.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/Great British Racing