Galw am ymchwiliad yn dilyn trafferthion cyn gêm pencampwyr Ewrop ym Mharis

Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl yn galw am ymchwiliad am reolaeth y dorf cyn y gêm yn erbyn Real Madrid yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop ym Mharis nos Sadwrn.
Roedd oedi o 36 munud cyn i’r gêm ddechrau oherwydd roedd miloedd o gefnogwyr Lerpwl yn methu cael mynediad.
Roedd rhai wedi cwyno fod yr heddlu wedi defnyddio nwy dagrau arnyn nhw.
Dywedodd UEFA fod trafferthion oherwydd bod nifer o gefnogwyr Lerpwl wedi prynu tocynnau ffug.
Mae ysgrifennydd diwylliant y DU Nadine Dorries wedi cefnogi’r galwadau am ymchwiliad.
Dywedodd: “Rwy’n annog UEFA i lansio ymchwiliad swyddogol i’r hyn aeth o le a pham. Mae o ddiddordeb i bawb sy’n gysylltiedig i ddeall beth ddigwyddodd a dysgu gwersi o’r digwyddiadau yma."
Ar y cae, Real Madrid oedd yn fuddugol 1-0 gan ennill y cwpan am y 14eg tro.
Er i Gareth Bale gael ei enwi ar y fainc, ni ddaeth i’r cae.
Darllenwch fwy yma.
5️⃣🏆 #HalaMadrid #UCL pic.twitter.com/TaNuYC2XVZ
— Gareth Bale (@GarethBale11) May 28, 2022
Llun: Gareth Bale/Twitter