Bale ar y fainc i Real Madrid yn erbyn Lerpwl ym Mharis

28/05/2022
Gareth Bale

Mae Gareth Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Real Madrid i herio Lerpwl yn rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop ym Mharis nos Sadwrn.

Mae Bale wedi ei enwi ar y fainc i’r tîm o Sbaen sydd wedi ennill y cwpan 13 o weithiau.

Y tro diwethaf i’r ddau glwb gyfarfod yn y rownd derfynol yn 2018 fe sgoriodd Bale ddwy gôl i'w dîm.

Os fydd Bale yn dod i’r cae, dyma fydd ei gêm olaf i’w glwb gan fod ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.