Cerddwraig wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fws yng Nghaerdydd

Heddlu.
Mae menyw 63 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fws yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu fod y fenyw o ardal Waunadda wedi marw yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a’r cyhoedd.
Roedd y ffyrdd ar gau am rai oriau ac roedd yr heddlu wedi cynghori teithwyr i osgoi’r ardal yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng gwaelod Stryd y Frenhines a Phlas Dumfries am tua 12.00.
Roedd siopau cyfagos wedi cau am beth amser hefyd.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan nodi cyfeirnod 2200178270.
Darllenwch fwy yma.