Partygate: Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn cael dirwy am fod mewn parti ar yr un noson â Boris Johnson

Wales Online 28/05/2022
Boris Parti

Cafodd criw o fyfyrwyr yng Nghaerdydd ddirwyon gan yr heddlu am gynnal parti ar yr un noson â welwyd Boris Johnson yn yfed mewn parti ffarwel yn Downing Street.

Roedd y myfyrwyr wedi ymgynnull mewn fflat yn Neuadd Talybont ar 13 Tachwedd 2020.

Dyma’r union noson a welwyd Boris Johnson mewn llun yn codi gwydryn mewn parti ffarwel i aelod o staff.

Ar y pryd roedd cyfyngiadau Covid llym mewn lle oedd yn gwahardd pobl rhag ymgynnull.

Cafodd nifer o’r myfyrwyr ddirwyon am y digwyddiad.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.