Michael Sheen yn llongyfarch cymuned am 'achub' sinema hynaf Cymru
Mae'r actor Michael Sheen wedi llongyfarch cymuned ym Mlaenau Gwent am "achub" sinema hynaf Cymru.
Mae aelodau o gymuned Brynmawr nawr yn berchen ar Sinema Neuadd y Farchnad, gyda'r trosglwyddiad asedau bellach wedi'i gwblhau.
Fe gafodd Sinema Neuadd y Farchnad ei agor yn 1894, sy'n golygu mai dyma'r sinema hynaf yng Nghymru sy'n parhau i weithredu.
Bu'r gymuned yn ymgyrchu i geisio achub y sinema ers 2013 gan ffurfio grŵp "Save Our Cinema".
Fe ddatblygodd y grŵp i ddod yn Ymddiriedolaeth Sinema a Chelfyddydau Neuadd y Farchnad ac maen nhw bellach yn berchen ar rydd-feddiant y sinema a'r adeilad cyfagos.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi diolch i'r tîm sydd wedi galluogi'r trosglwyddiad asedau rhwng Cyngor Sir Bwrdeistref Blaenau Gwent a'r ymddiriedolaeth.
Fantastic news! Congratulations to everyone who’s fought so hard for this. Brilliant ❤️#OldestCinemaInWales https://t.co/jZORpswn6T
— michael sheen 💙 (@michaelsheen) May 27, 2022
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd yr actor Michael Sheen: "Newyddion ffantastig! Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi brwydro mor galed am hyn. Gwych."
Llun: Gage Skidmore