Oedi i deithwyr ar drothwy gwyliau hanner tymor

Maes awyr.
Mae teithwyr yn wynebu oedi ar ôl i nifer o hediadau gael eu canslo mewn meysydd awyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Yn Gatwick fe gafodd 23 o hediadau Easyjet eu canslo ar fyr rybudd.
Mae hyn yn dilyn nifer o hediadau oedd wedi eu canslo ddydd Iau.
Dywedodd Easyjet mai problemau gyda rheolaeth traffig awyr, gwaith ar y llain a gwasanaethau triniaeth y maes awyr oedd ar fai.
Mae hyn yn achosi cryn drafferthion i deithwyr ar drothwy gwyliau hanner tymor.
Ym maes awyr John Lennon mae miloedd o gefnogwyr Lerpwl yn wynebu oedi amhenodol wrth iddyn nhw deithio i Baris ar gyfer rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop nos Sadwrn.
Darllenwch fwy yma.