Depp v Heard: Y rheithgor yn ystyried eu dyfarniad ar ddiwedd yr achos

Mae'r rheithgor yn yr achos cyfreithiol rhwng Johnny Depp a'i gyn-wraig, Amber Heard, wedi eu gyrru allan i ystyried eu dyfarniad.
Mae Mr Depp yn erlyn Ms Heard am iawndal yn dilyn erthygl yr ysgrifennodd hi yn The Washington Post yn 2018 gan honni iddi gael ei chamdrin yn gorfforol ac yn feddyliol gan Mr Depp.
Mae'r actor, sydd wedi serennu mewn ffilmiau megis The Pirates of the Caribbean, yn datgan na wnaeth o erioed daro ei gyn-wraig ac ei bod hi wedi creu'r honiadau er mwyn cael mantais wrth iddynt ysgaru.
Ar ddiwedd yr achos chwe wythnos, fe wnaeth tîm cyfreithiol Mr Depp ofyn i'r rheithgor i "roi bywyd Mr Depp yn ôl iddo".
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wikimedia Commons