Newyddion S4C

Dathlu 50 mlynedd o'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis

Golwg 360 27/05/2022
Llanberis

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedi bod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i nodi penblwydd yr amgueddfa yn 50 oed yr wythnos hon.

Cafodd y gweithdai llechi Fictoraidd gwreiddiol, sy’n gartref erbyn hyn i’r Amgueddfa Lechi, eu cau ym mis Awst 1969 ynghyd â chwarel lechi Dinorwig.

Ond daeth tro ar fyd i'r lleoliad ar Fai 25, 1972, wrth i'r amgueddfa newydd agor ei drysau am y tro cyntaf.

Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dathliadau’n cynnwys arddangosfa o ffotograffau a chreiriau, ynghyd â gwaith celf gan blant ysgolion lleol, cyfres o sgyrsiau gan staff presennol yr amgueddfa a chyn-staff, a gweithgareddau’n dathlu crefftau traddodiadol y safle.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.