Dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 wedi ei henwi'n lleol
Mae dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Conwy wedi ei henwi'n lleol.
Mewn neges ar wefan GoFundMe, fe ddywedodd teulu a ffrindiau Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch ar Ynys Môn fod eu "cymuned wedi cael ei dinistrio gan ddamwain car ofnadwy sydd wedi gadael merch ifanc, Keisha, 20, heb ei Mam annwyl".
"I wneud y drasiedi hon hyd yn oed yn waeth, mae gweddill aelodau ei theulu yn ymladd am eu bywydau mewn gofal critigol yn yr ysbyty," medden nhw.
"Mewn eiliad, mae'r plentyn disglair yma wedi colli rhiant a oedd yn gofalu amdani bob dydd, ac mae bellach yn wynebu dyfodol ansicr wrth i'w hanwyliaid frwydro i wella.
"Mae hi ar hyn o bryd yn cael gofal gan ei ffrindiau teulu agos, ond mae'r ffordd ymlaen yn llawn heriau llethol."
Ychwanegodd yr ymgyrch codi arian y byddai'r holl arian sy'n cael ei gasglu yn mynd tuag at gefnogi'r ferch a'i theulu.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Forfa Conwy tua 12.00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a lori ger cyffordd 17 ar yr A55.
Cafodd y gwasanaethu achub hefyd eu galw, ond bu farw dynes yn ei 40au, oedd yn teithio tua'r gorllewin yn y car, yn y fan a’r lle.
Cafodd dau berson eu cludo i ysbytai yn Stoke ac Aintree gydag anafiadau difrifol, tra bod trydydd person wedi'i gludo i Aintree mewn ambiwlans.
Roedd y pedwar person yn teithio yn yr un car.
Mae gyrrwr y lori yn cynorthwyo’r llu gyda’u hymholiadau ar hyn o bryd.
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng twneli Penmaenmawr a Chonwy am rai oriau brynhawn Iau.
