'Angen newid agweddau tuag at bobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau' medd dyn o Wynedd
Rhybudd – mae’r erthygl ganlynol yn cyfeirio at hunanladdiad a defnydd cyffuriau.
Mae angen newid agweddau tuag at bobl sy’n dioddef dibyniaeth cyffuriau yn ôl un dyn o Wynedd sydd newydd nodi 100 niwrnod yn sobor.
Mae Arwel Wyn Griffith, 36 o Waunfawr yn dweud ei fod wedi bod yn gaeth i gocên ers 18 mlynedd ac mae o rŵan yn derbyn cymorth yn Penrhyn House, canolfan adferiad ym Mangor.
Wrth siarad am ei brofiad o fod yn gaeth i’r cyffur mae’n mynnu mai salwch ydi dibyniaeth a bod nifer dal ddim yn deall y cyflwr.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru bu farw 417 o bobl yng Nghymru yn 2024 drwy wenwyno cyffuriau gydag opiodau yn gyfrifol am y mwyafrif o rheini.
Fe siaradodd Arwel gyda rhaglen Newyddion S4C ym mis Mai 2025 am ei benderfyniad i ofyn am gymorth am y tro cyntaf gan ddisgrifio dibyniaeth fel rhywbeth wnaeth ddifetha’i fywyd.
“Doedd bywyd ddim yn gret o gwbl, oni’n cloi fy hun yn y bedroom, doedd o ddim yn bleser a doeddwni’m yn joio’n hun o gwbl," meddai.
“Ar ôl cymryd y lein gynta oni jest ofn cysgod fy hun, crynu i gyd, nerfus a methu siarad na wynebu neb ac mi oedd o jest yn lle tywyll i fod."
'Wedi colli pawb'
Wrth siarad yn 2025 roedd Arwel newydd nodi 90 diwrnod heb ddefnydd cyffuriau.
Ond yn fuan ar ôl hynny dros yr haf mi drodd yn ôl at gocên.
“Nes i bigo fo fyny yn meddwl nai jest cal un, ond o fewn wythnos neu bythefnos oeddwn i nol wrthi bob dydd," meddai.
“Yn y diwedd ges i kick out o tŷ mam a dad, oni’n homeless a neshi iwsio lot o drygs a trio cymryd bywyd fy hun.
“Ond wedyn nes i sylweddoli bo' fi 'di colli pawb, partner fi, teulu fi.. oni’n sylwi bod fi gorfod gwneud hyn i fi’n hun... i bawb arall ia ond yn bwysicach i fi’n hun."
'Salwch ydio'
Mae profiad Arwel yn dangos bod y lôn at adfer yn gymhleth ac yn droellog.
Ond mae’n dweud bod delwedd nifer o bobl at unigolion sy’n gaeth yn aml yn anghywir a bod angen mwy o ddealltwriaeth os am atal mwy o bobl yn dioddef.
“Salwch ydio, dydi lot o bobl ddim yn deall beth ydi addiction," meddai.
“Maen nhw’n meddwl bod y bobl ma jest yn cymryd drugs i chwalu bywydau neu bod nhw’n dewis... dydio ddim yn ddewis yn anffodus.
“Stori fi ydi.. dwi mewn recovery am yr ail dro ac mae stori pawb yn wahanol.
“Mae rhai yma am y tro cyntaf rhai yma am yr ail, trydydd neu bedwerydd tro ac mae’n anodd."
Dau berson sy’n gwybod yn iawn sut brofiad ydi hwnnw ydi Mark ac Elen o Fangor.
Fis nesaf mi fydd y ddau yn nodi tair blynedd ers rhoi’r gorau i fod yn ddibynnol ar amphetamine.
Mae’r ddau yn parhau i fod yn rhan o gymuned Penrhyn House ac yn deall profiad Arwel yn iawn.
“Natho jest cymryd drosodd... roedd o’n afiach," meddai Mark.
Yn ôl Elen fe ddechreuodd hi gymryd cyffuriau i atal blinder llethol wedi iddi gael babi.
“Oedd genai ddau o blant bach ‘ma a dim energy," meddai.
“Nes i ffeindio drugs ac oni fatha wow - mae hwn di gweithio imi ac yn rhoi yr energy boost oni angen i edrych ar ôl nhw ac ers hynny dwi jest di bod yn addicted iddo.
“Natho fynd â ni i lle oedd y plant wedi cael eu cymryd ffwrdd o ni... oni’n sal am ddyddie, hallucinations a bob dim."
'Second chance'
Ond mae’r ddau bellach yn nodi carreg filltir holl bwysig fis nesaf o dair blynedd heb ddefnydd cyffuriau gan roi teyrnged i waith Pernhyn House.
“Swni’m yma heb y lle yma," meddai Mark.
“Da ni’n cael second chance efo plant ni a ‘da ni’n neud be da ni fod i neud."
“Mae’n waith caled," meddai Elen. “Ond ma’n gret”!
'Achievement mawr'
Ond ategu safbwynt Arwel mae’r ddau hefyd drwy ddweud bod yna angen i newid agweddau tuag at bobl sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol.
“Dwi’m yn meddwl bod pobl yn deall unless ti di bod yno dy hun," meddai Elen.
Er i’r ddau brofi cyfnod tywyll iawn maen nhw’n mynnu bod y dyfodol yn edrych yn obeithiol.
“Mae’n achievement mawr a doeddwn i byth yn meddwl swni’n gweld 3 blynedd, ond os ti rili isio fo fedra chi neud o."
Wrth i Arwel nodi can niwrnod mae o hefyd yn teimlo’n fwy obeithiol am gadw i ffwrdd o gyffuriau gan ddweud ei fod yn deall y peryglon yn fwy y tro hwn.
“Mae gynno fi lot o support rownd fi, mae teulu fi 'di cymryd fi’n nol ac mae pawb yn falch bo fi’n gwella," meddai.
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.