Teyrngedau i Richard Thomas, ‘Dic y Fet’, sydd wedi marw yn 86 oed

Richard Thomas

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Richard Thomas, a elwir gan nifer yn ‘Dic y Fet’ neu ‘Dic Penrallt-ddu’, sydd wedi marw yn 86 oed.

Roedd y milfeddyg o Aberteifi yn enwog am ei straeon carlamus am ei gyfnod o 36 mlynedd yn gweithio yn Ne Ceredigion, Gogledd Penfro a gorllewin Sir Gaerfyrddin.

Yn ddiweddarach daeth yn un o bedwar ymddiriedolwr sefydlu Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan.

Roedd yn ffigwr allweddol yn eu hymgyrch i adfer Castell Aberteifi a’i ddwyn yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus.

Wedi ymddeol yn 1999 fe gyhoeddodd ei gyfrol ‘Dic y Fet - Hunangofiant Richard Thomas’ drwy wasg Gomer, oedd yn llawn straeon doniol a dirdynnol o fywyd amaethyddol yr ardal.

Cafodd ei eni yn 1939 ym Mhenrallt-ddu, yn nhref Aberteifi, yn fab i’r milfeddyg JE Thomas, neu Tomos y Fet, sef fet cyntaf Castell Newydd Emlyn.

Parhaodd i fyw yn yr un tŷ drwy ei oes, gan adeiladu gyrfa yn gweithio o Synod Inn i Abergwaun ac i’r dwyrain tuag at Gynwyl Elfed.

Daeth yn siaradwr gwadd poblogaidd wrth adrodd ei straeon ef a’i dad ac fe ofynnodd y Llyfrgell Genedlaethol iddo recordio ei straeon ar dap.

Wedi hynny fe ofynnodd Ceri Wyn Jones o Gomer iddo ysgrifennu cyfrol o’i atgofion, a gyhoeddwyd yn 2006, ac fe gyhoeddwyd fersiwn Saesneg gan y Lolfa.

'Dawn amhrisiadwy'

Wrth roi teyrnged i Richard Thomas, dywedodd y Cynghorydd John Davies, fod ganddo "ddawn amhrisiadwy" wrth wneud ei waith fel milfeddyg.

“Roedd yn fach ei faint, ond enfawr ei gymeriad," meddai wrth Newyddion S4C.

“Cymeriad oedd yn rhan o’i dref enedigol yn Aberteifi, cymeriad oedd yn rhan o bob cartref, clos ffarm, pob cegin ffarm roedd yn ymweld â nhw.

“Ag yn bendant i mi yn bersonol, roedd yn un oedd yn medru adrodd stori fel bod pawb yn ei deall, a gyda pharch at yr hen ffordd wledig Gymreig o fyw.

“Un o feibion mwya’ amlwg tre’ ac ardal Aberteifi ac ardal gogledd Sir Benfro, oherwydd ei gyfraniad fel milfeddyg ac fel cymwynaswr cymunedol."

Ychwanegodd: “O’dd bod yn ei gwmni fe o hyd yn llanw’ch calonnau chi â gwen, ac yn sicr ddigon, fydd Aberteifi yn dal i wenu, yn dal i chwerthin mewn cof, ac mewn parch tuag at Richard y Fet fel o’n i’n ei nabod e.

“O’dd na ddawn amhrisiadwy gydag e i fedru dod i glos ffarm ac ymdawelu meddwl ffarmwr a creadur ar y cyd.

“Mae’n golled fawr i ardal a bro, ond mae’n enilliad mawr hefyd i ni fel ardal o fod wedi'i gael e, ei gyfraniad e, ei gwmni fe a’i chwerthin e.

“Fydd ei chwerthin byth yn distewi wrth i ni ei gofio fe.”

'Caredig'

Dywedodd Glen K. Johnson, hanesydd sy’n arbenigwr ar Gastell Aberteifi, ei fod wedi clywed am farwolaeth Richard Thomas “gyda thristwch mawr”.

“Heb Dic a'r ymddiriedolwyr eraill a sefydlodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, byddai Castell Aberteifi naill ai'n dadfeilio neu'n faes parcio heddiw,” meddai.

“Roedd Dic hefyd yn adroddwr straeon ac yn siaradwr ar ôl cinio gwych, yn ogystal â bod yn filfeddyg o'r radd flaenaf. 

“Yn bwysicaf oll, roedd yn ddyn swynol a charedig a wnaeth ei orau dros y gymuned ac a ddaeth â chwerthin inni ar hyd y ffordd. 

“Cydymdeimladau dwysaf a diffuant i'w deulu a'i nifer o ffrindiau agos.”

Llun drwy garedigrwydd Glen K. Johnson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.