Galw i sicrhau mwy o gynnyrch lleol mewn bwyd ysgol

Galw i sicrhau mwy o gynnyrch lleol mewn bwyd ysgol

Mae gwleidyddion o bob anian wedi galw am weithredu i sicrhau bod mwy o gynnyrch lleol mewn prydau bwyd ysgol.

Daw'r alwad yma rhwng y pleidiau wedi i Newyddion S4C ddatgelu ffigyrau yr wythnos hon yn dangos bod cig cyw iar yn cael ei hedfan filoedd o filltiroedd i'w ddefnyddio mewn ysgolion yng Nghymru.

Dim ond dau awdurdod lleol sy'n sicrhau bod eu holl gig cyw iar mewn prydau ysgol yn tarddu o'r Deyrnas Unedig, tra bod dau arall yn mewnforio dros 90% o'r cig cyw iar mewn prydau ysgol o wledydd fel Brasil a Gwlad Thai y tu fas i'r Undeb Ewropeaidd.

Mewn datagniad, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru bod awdurdodau lleol yn "gweithio i wella cynaliadwyedd a chefnogi cadwyni cyflenwi lle'n bosibl, tra yn sicrhau bod prydau mewn ysgolion yn ddiogel, yn fforddiadwy ac ar gael yn gyson."

Ym mis Medi y llynedd, gofynodd yr aelod Senedd Llafur Jenny Rathbone, sydd yn cadeirio grwp trawsbleidiol y Senedd ar fwyd ysgol wrth y Prif Weinidog beth oedd llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn "glanhau caffael cyhoeddus bwyd, er mwyn cefnogi cwmniau Cymreig wrth fwydo ein plant yn hytrach na mewnforio cyw iar o wlad Thai?"

Dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies bod "rhethreg yn y senedd ac mewn siambrau cynghorau lle mae pobl yn dweud eu bod nhw'n cefnogi caffael yn lleol, ond mae angen iddyn nhw nawr weithredu ar hynny a darparu prydau ysgol sydd â chynnyrch Cymreig neu Brydeinig ar y plat."

Mae aelod Senedd Plaid Cymru, Heledd Fychan yn aelod o'r grwp trawsbleidiol ar fwyd ysgol yn dweud ei bod am "sicrhau bod canllawiau yn cael eu rhoi ar waith yn cefnogi cynghorau lleol i brynu cynnyrch yma yng Nghymru."

Yn ôl Reform UK, byddai'r ffigyrau yn "dychryn" rhieni yng Nghymru, gan ddweud bod yn "rhaid i'r sector gyhoeddus chwarae rhan wrth gefnogi ein ffermwyr".

Mae'r Blaid Werdd hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio "gydag ysgolion, ffermwyr a chyrff cyhoeddus ar bolisiau caffael llawer cryfach fydd yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol." 

Fe wnaed cais i'r Democratiaid Rhyddfrydol wneud sylw ar y galwadau, ond ni chafwyd unrhyw ymateb gan y blaid.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i gynyddu'r defnydd o fwyd Cymreig a gynhyrchir yn lleol mewn ysgolion".

Does dim awgrym bod defnyddio cyw iar wedi ei fewnforio yn beryglus, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn mynnu bod yr "holl gyw iar sydd yn cael ei weini mewn ysgolion yn dilyn canllawiau llym y DU ar ddiogelwch ac hylendid."

Dywed y Gynghrair Cefn Gwlad eu bod yn galw am fwy o dryloywder o ran prynu a chaffael cynhwysion ar gyfer prydau bwyd ysgol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.