Ynys Môn: Beiciwr wedi’i anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

Gwalchmai

Mae’r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i feiciwr gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn fore Mercher.

Digwyddodd y gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys lori a’r beiciwr ar ffordd yr A5 ger maes awyr Mona tua 07.15.

Fe gafodd y beiciwr gwrywaidd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol ac ers hynny mae wedi cael ei drosglwyddo i'r ysbyty yn Stoke.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn gyrru rhwng Gwalchmai a Maes Awyr Mona rhwng 06.00 a 07.15 o'r gloch, sydd naill ai wedi gweld y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau camera dashfwrdd o'r beiciwr yn teithio rhwng Gwalchmai a maes awyr Mona, i gysylltu â swyddogion yn yr Uned Troseddau Ffyrdd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu trwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000075237.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.