Caerfyrddin: Parhau i chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar fenyw
Caerfyrddin: Parhau i chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar fenyw
Mae’r heddlu yn parhau i chwilio am ddyn 57 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar fenyw yng Nghaerfyrddin ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n annog James McKenna i “gysylltu cyn gynted a bo modd fel bod modd datrys y sefyllfa yma’n fuan”.
Fe ddioddefodd menyw anafiadau trywanu i'w llaw a'i chorff yn ystod y digwyddiad rhwng 15.00 a 16.00 ddydd Iau, ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty.
Dywedodd swyddogion ddydd Gwener eu bod nhw’n trin yr ymosodiad fel ymgais i lofruddio.
Dywed yr heddlu fod Mr McKenna yn lleol i ardal Caerfyrddin, ond fod ganddo hefyd gysylltiadau gydag Iwerddon ac mae ymholiadau gyda phorthladdoedd a chanolfannau trafnidiaeth hefyd yn parhau.
Mae James McKenna yn cael ei ddisgrifio gan yr heddlu fel dyn gwyn, Prydeinig gyda phen moel, ac yn 5 troedfedd 7 modfedd o daldra gyda barf gwyn.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai eu helpu i ddod o hyd i'r dyn, i gysylltu â nhw ar unwaith.
Mae'r llu hefyd yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio ymwneud â Mr McKenna, ond i gysylltu â swyddogion yn syth os yn dod ar ei draws.
'Pryder i bobl Caerfyrddin'
Dywedodd y Ditectif Prif Uwcharolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn deall bod y digwyddiad hwn yn destun pryder i bobl Caerfyrddin.
"Hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i ddod o hyd i James a dod â’r digwyddiad i ben yn gyflym.
“Hoffwn ailadrodd mai digwyddiad ynysig yw hwn, a bod unrhyw batrolau ychwanegol at ddiben tawelu meddwl yn unig ac y bydd adnoddau plismona ychwanegol i’w gweld yn y dref wrth i’r ymholiadau fynd ymlaen.
“Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn anarferol iawn i’r ardal, ac rwyf am fod yn glir na fyddwn yn goddef trais o unrhyw fath yn ein cymunedau."