Tonysguboriau: Pedwar yn euog o lofruddio Joanne Penney

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae pedwar o bobl wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth ar ôl i fenyw gael ei saethu'n farw mewn eiddo yn Nghonysguboriau, Rhondda Cynon Taf y llynedd.

Saethwyd Joanne Penney, 40, ar garreg ei drws yn Nhalbot Green ar 9 Mawrth 2025 a bu farw yn fuan wedyn.

Daeth rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd i'r casgliad bod Joshua Gordon, Jordan Mills Smith, Melissa Quailey Dashper a Kristina Ginova oll yn euog o lofruddiaeth.

Cafwyd un dyn, Tony Porter, yn ddieuog o lofruddiaeth.

Cafwyd pedwar o'r diffynyddion yn euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.

Roedd Jordan Mills Smith eisoes wedi pledio'n euog i'r drosedd.

Plediodd chweched diffynnydd, Marcus Huntley, yn euog i lofruddiaeth ar ail ddiwrnod yr achos.

Clywodd y llys bod Joanne Penney wedi bod yn aros yn rhif 10 Llys Illtyd, Tonysguboriau dros dro.

Roedd wedi ei saethu wrth ateb y drws a hynny o ganlyniad i gystadleuaeth rhwng gangiau, un wedi'i leoli yng Nghaerdydd a'r llall yng Nghaerlŷr yn Lloegr.

'Cryfder'

Mae teulu Joanne Penney wedi rhoi teyrnged iddi yn dilyn yr achos llys.

“Rydym wedi ein torri ein calonnau gan golled drasig ein hannwyl Joanne,” meddai.

“Roedd hi’n ferch, mam, chwaer, a nith - yn cael ei charu’n fawr gan bawb oedd yn ei hadnabod. 

“Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder, na’i chariad at ei theulu byth yn cael eu hanghofio.

“Yn ystod yr amser anodd hwn, gofynnwn am breifatrwydd wrth i ni alaru a dechrau prosesu’r golled annirnadwy hon. 

“Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r cydymdeimlad gan y gymuned ac yn gofyn yn garedig am roi lle i’n teulu alaru mewn heddwch.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.