Gweithwyr casglu sbwriel Rhondda Cynon Taf wedi pleidleisio o blaid streicio

Mae gweithwyr casglu sbwriel yn Rhondda Cynon Taf wedi pleidleisio o blaid streicio yn sgil ffrae dros dal.
Gall y streic effeithio 100,000 o gartrefi yn y sir wedi'i Undeb Llafur GMB gadarnhau bod 95% o aelodau wedi pleidleisio o blaid streicio.
Daw'r penderfyniad wedi'i GMB alw am fwy o dal i weithwyr gan honni bod cyflogau wedi gostwng 25% dros y degawd diwethaf.
Ni fydd y weithred ddiwydiannol yn cychwyn ar unwaith wrth i drafodaethau rhwng yr undeb a'r cyngor parhau, ond dywed yr undeb bod amser yn rhedeg allan i ddod i ddatrysiad.
Darllenwch fwy yma.