Newyddion S4C

Teyrngedau Cymru i Dyfrig Evans

Newyddion S4C 27/05/2022

Teyrngedau Cymru i Dyfrig Evans

Mae'r cerddor a’r actor Dyfrig Evans wedi marw yn 43 oed, ar ôl cyfnod o waeledd.

Roedd yn gitarydd a phrif ganwr gyda’r grŵp, ac fe ddaeth i gael ei adnabod gan lawer fel Dyfrig Topper o achos llwyddiant y band.

Yn actor dawnus, daeth i amlygrwydd fel aelod o gast gwreiddiol cyfres ‘Rownd a Rownd’ ac fe ymddangosodd mewn nifer o ddramâu teledu yn cynnwys ‘Talcen Caled’, ‘Emyn Roc a Rôl’, ‘Tipyn o Stad’, ‘ Gwlad yr Astra Gwyn’, ‘Darren Drws Nesa’ ‘Hidden’ a ‘Hinterland’.

Mae ffrindiau, actorion, cerddorion a pherfformwyr ar draws Cymru wedi bod yn cofio am y dyn o Ddyffryn Nantlle ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y dydd, dyma ddetholiad o rai o'r teyrngedau.

​​

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.