Newyddion S4C

ABBA yn dechrau cyfres gyntaf o gyngherddau ers dros 40 mlynedd

27/05/2022
ABBA Voyage

Mae ABBA yn dechrau ar eu cyfres gyntaf o gyngherddau ers dros 40 mlynedd ddydd Gwener.

Mae dyddiadau wedi eu cyhoeddi ar gyfer ABBA Voyage hyd at ddiwedd mis Mai 2023. 

Ond nid cyngerdd arferol mohoni gan y bydd Agnetha, Björn, Benny ac Anni-Frid yn ymddangos fel fersiynau digidol o'u hunain.

Mae technoleg wedi golygu y bydd modd ail-greu symudiadau'r cantorion ar lwyfan er na fyddan nhw yno eu hunain.

Mae'r cyngerdd yn parhau am 90 munud ac ni fydd egwyl.

Mae arena bwrpasol wedi ei adeiladu ym Mharc Olympaidd y Frenhines Elizabeth, Llundain, ar gyfer y cyngerdd.  

Daw'r cyngerdd wedi i ABBA ryddhau eu caneuon newydd cyntaf ers 1982 ddiwedd 2021.

Llun: ABBA Voyage

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.