Cyrchfan boblogaidd Bryn y Briallu ynghau dros ddathliadau'r Calan
Mae pobl wedi cael rhybudd i beidio â theithio i Fryn y Briallu yn Llundain ar gyfer dathliadau'r Flwyddyn Newydd gan y bydd y parc ynghau am nad oes modd cyflogi plismyn i oruchwylio'r safle oherwydd toriadau ariannol.
Mae'r bryn yn boblogiadd am fod golygfa dda o Lundain yno, yn enwedig ar Nos Galan er mwyn gwylio arddangosfa tân gwyllt y ddinas.
Aeth 30,000 o bobl yno nos Galan 2024.
Ar Fryn y Briallu ar 21 Mehefin 1792 y cafodd seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ei chynnal o dan ofal Iolo Morganwg. Mae cofeb yno i nodi cynnal yr Orsedd gyntaf
Ond fydd hi ddim yn bosibl ymweld â'r safle dros y Flwyddyn newydd eleni, wrth i'r gatiau gau am 20:00 nos Fawrth hyd at 06:00 ddydd Calan.
Cyhoeddodd Heddlu'r Met yn gynharach eleni y byddai adran plismona parciau'r ddinas yn cael ei chwtogi, er mwyn ceisio mynd i'r afael â diffyg ariannol gwerth £260 miliwn.
Mae pryderon hefyd am ddiogelwch ym Mryn y Briallu adeg dathliadau'r Calan ar ôl i fachgen 16 oed gael ei drywanu i farwolaeth yno Nos Galan 2023.
Cafodd Areece Lloyd-Hall, 18, ei garcharu am isafswm o 16 mlynedd fis Tachwedd am lofruddio Harry Pitman.
Yn ôl llefarydd ar ran y Parciau Brenhinol, doedd y penderfyniad i gau Bryn y Briallu eleni "ddim yn un rhwydd."