Anthony Joshua mewn cyflwr sefydlog wedi damwain a laddodd ei ffrindiau

Anthony Joshua

Mae'r bocsiwr pwysau trwm Anthony Joshua mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ffordd yn Nigeria a laddodd ddau aelod o'i dîm hyfforddi. 

Roedd y cyn bencampwr byd yn teithio mewn Lexus SUV ddydd Llun, a darodd yn erbyn cerbyd a oedd wedi parcio ar brif ffordd yn nhalaith Ogun, ger Lagos.

Roedd y ddau ddyn a fu farw yn ffrindiau agos iddo ac yn aelodau o'i dîm, sef Sina Ghami a Latif Ayodele. 

Mewn datganiad, dywedodd hyrwyddwr y bocsiwr, Matchroom Boxing bod Joshua mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, wedi iddo gael ei gludo yno ar gyfer archwiliad a thriniaeth, ac y bydd yn aros yno am y tro. 

Yn ôl yr heddlu yn lleol, sydd wedi dechrau cynnal ymchwiliad, roedd y Lexus yn teithio ar hyd y ffordd o Lagos i Sagamu  pan "chwalodd y teiar oherwydd cyflymder uchel" cyn i'r cerbyd "golli rheolaeth." 

Cafodd Anthony Joshua a'r gyrrwr eu hachub o weddillion y cerbyd a'u cludo yn syth i'r ysbyty.  

Daeth cadarnhad fod y ddau deithiwr arall - Sami Ghami a Latif Ayodele, wedi marw yn y fan a'r lle.  

Mewn datganiad dywedodd Matchroom : "Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid, ac rydym yn gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn."

Wedi ei eni yn Watford, Llundain, mae gan Anthony Joshua deulu yn Sagamu, sef tref yn nhalaith Ogun yn ne-orllewin Nigeria, ger safle'r gwrthdrawiad.   

Roedd e wedi treulio cyfnod yn y wlad wedi ei fuddugoliaeth ddiweddar yn erbyn Jake Paul ar 19 Rhagfyr.  

Llun: Reuters


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.