Codi dros £135,000 i blismon a gollodd ei deulu mewn tân Ddydd San Steffan
Mae dros £135,000 wedi ei godi ar gyfer plismon a gollodd ei wraig a’i ddau blentyn yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Gaerloyw ar Ŵyl San Steffan.
Ceisiodd Tom Shearman achub ei deulu oedd yn gaeth yn y tŷ yn ardal Brimscombe Hill ger Stroud.
Bu farw ei wraig Fionnghuala Shearman, oedd yn cael ei hadnabod fel Nu, a’u dau o blant, Eve, saith oed, ac Ohner, pedair oed.
Llwyddodd Mr Shearman, sydd yn blismon gyda Heddlu Sir Gaerloyw, i ddianc ond roedd y tân yn rhy ffyrnig iddo achub ei deulu.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ac mae bellach wedi gadael yno.
Mae tudalen codi arian ar wefan GoFundMe bellach wedi codi dros £135,000 ers ei sefydlu ddydd Sul.
Mae wedi mynd heibio'r targed gwreiddiol o godi £110,000 a'r nod bellach yw £190,000.
'Trasiedi'
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Brimscombe Hill ger Stroud tua 03:00 fore Gwener.
Ddydd Llun, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Ian Fletcher wrth newyddiadurwyr y tu allan i Bencadlys Heddlu Sir Gaerloyw fod y tad a'r fam wedi cael eu deffro gan y tân ac wedi ceisio cyrraedd eu plant yn yr ystafell wely yng nghefn y cartref.
“Fe fethon nhw â chyrraedd yr ystafell wely am fod y tân mor ffyrnig,” meddai.
“Fe aeth y tad allan o'r tŷ drwy ffenestr yr ystafell 'molchi er mwyn ceisio mynd i mewn i'r ystafell wely o'r tu allan.
“Methodd â mynd i mewn drwy ffenestr yr ystafell wely.
Ychwanegodd Ian Fletcher: “Yna ceisiodd ddychwelyd i'r tŷ drwy ffenestr yr ystafell 'molchi, ac erbyn hynny, roedd y fflamau wedi lledaenu i'r ystafell honno.
“Fe geisiodd fynd i lawr grisiau gan geisio brwydro trwy'r drws ym mlaen y tŷ a'r drws cefn.
“Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys bryd hynny gan geisio rheoli'r tân yn syth."
Yn ôl Mr Fletcher, y gred yw fod y tân wedi cynnau ar y llawr gwaelod, a pharhau mae'r ymchwiliad i geisio darganfod sut y cynheuodd.
Dyw'r heddlu ddim yn credu ei fod yn achos amheus.
Mae Mr Shearman yn cydweithio gyda’r heddlu er mwyn ceisio deall yr hyn achosodd y tân.
Disgrifiodd Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Sir Gaerloyw, Maggie Blyth y digwyddiad fel “trasiedi.”
“Mae fy meddyliau gyda'n cydweithiwr, ynghyd â phawb sydd â chysylltiad â'r hyn sydd wedi digwydd,” meddai.
Llun: Ben Birchall/PA Wire