Newyddion S4C

Mwy o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo

Evening Standard 26/05/2022
Boris Johnson (Llun Rhif 10)

Mae tri Aelod Seneddol Ceidwadol arall wedi galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo yn dilyn adroddiad Sue Gray ar bartïon yn Rhif 10 Downing Street yn ystod cyfnod y pandemig. 

Daw'r galwadau diweddaraf gan John Barron, David Simmonds a Stephen Hammond ddiwrnod yn unig ar ôl i'w cydweithiwr ar y meinciau cefn, Julian Sturdy, alw ar y Prif Weinidog i gamu o'r neilltu. 

Dywedodd Mr Baron bod canfyddiadau Ms Gray yn ogystal ag ymchwiliad Heddlu'r Met yn "gywilyddus wrth ystyried bod y gweddill ohonom ni wedi cadw at y rheolau Covid".

Hyd yma, mae 19 o Aelodau Seneddol Ceidwadol meinciau cefn wedi galw yn gyhoeddus ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.

Yn y cyfamser, mae aelodau eraill yn gyndyn i ddatgan yn gyhoeddus, gan gyfeirio at y rhyfel yn Wcráin, fel rheswm i gadw Mr Johnson wrth y llyw am y tro.

Darllenwch fwy yma

Llun: Rhif 10

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.