Texas: Tad a gollodd ei ferch yn beirniadu'r heddlu am beidio â 'gwneud dim'

Mae tad a gallodd ei ferch yn dilyn taniad gwn mewn ysgol yn Texas wedi beirniadu’r heddlu am beidio â "gwneud unrhyw beth fel roedden nhw i fod".
Mae rhai llygad dystion wedi cyhuddo swyddogion o fod yn "amharod" ac o beidio ag ymateb yn ddigon cyflym i'r digwyddiad.
Ond yn ôl Metro, dywed yr heddlu fod y saethwr wedi'i faricedio yn yr ystafell ddosbarth am o leiaf 30 munud ac y gwnaethon nhw ddechrau siarad ag e "ar unwaith".
Mae swyddogion wedi cydnabod fod y saethwr Salvador Ramos, 18, yn adeilad yr ysgol am hyd at awr pan laddodd 19 o blant a dau athro cyn iddo gael ei saethu'n farw gan swyddogion arbenigol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Ysgol Gynradd Robb