Llywodraeth yn caniatáu i Glwb Pêl-droed Chelsea gael ei werthu
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi caniatáu i gynlluniau i werthu Clwb Pêl-droed Chelsea barhau.
Roedd cosbau ariannol wedi eu rhoi ar berchennog y clwb Roman Abramovich yn sgil ei gysylltiadau ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r cosbau ariannol i nifer o bobl sydd â chysylltiadau â Llywodraeth Rwsia yn sgil ymosodiad y wlad ar Wcráin.
1/2 Last night the Government issued a licence that permits the sale of @ChelseaFC. Given the sanctions we placed on those linked to Putin and the bloody invasion of Ukraine, the long-term future of the club can only be secured under a new owner.
— Nadine Dorries (@NadineDorries) May 25, 2022
Mewn neges ar Wefan Twitter ddydd Mercher, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Nadine Dorries, mai'r unig ffordd o sicrhau "dyfodol hirdymor" y clwb oedd drwy ganiatáu’r gwerthiant.
Dywedodd hefyd fod y llywodraeth yn sicr na fydd gwerthiant y clwb yn buddio Roman Abramovich na chwaith unigolion eraill sydd wedi eu cosbi'n ariannol.
Llun: Asiantaeth Huw Evans