Newyddion S4C

Gweithwyr rheilffyrdd yn pleidleisio o blaid streic mwyaf ers degawdau

24/05/2022
Trên / Gorsaf / Caerdydd Canolog / Llun Trafnidiaeth Cymru

Mae'r streic rheilffyrdd fwyaf ers degawdau gam yn nes, wedi i weithwyr bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol. 

Mae’r undeb RMT wedi cadarnhau bod aelodau wedi pleidleisio o blaid gweithredu yn sgil dadleuon dros gyflogau, diswyddo a phryderon iechyd a diogelwch. 

Daw'r anghydfod wedi i Lywodraeth y DU fynnu bod rhaid i'r sector wneud arbedion sylweddol ar ôl i'r Llywodraeth ddosbarthu biliynau o bunnoedd i’r diwydiant yn ystod cyfnod y pandemig. 

Er hyn, mae RMT yn honni fod cynlluniau Network Rail i arbed £16bn yn tanseilio amodau iechyd a diogelwch y gweithle ac yn golygu y bydd nifer o weithwyr yn colli eu swyddi. 

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, galw ar undebau ddydd Mawrth i beidio mynd ar streic oherwydd yr effaith andwyol posib ar y sector.

Nid oes dyddiad wedi'i osod ar gyfer y gweithredu diwydiannol wrth i'r undebau alw am ragor o drafodaethau gyda gweinidogion y Llywodraeth. 

Darllenwch fwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.