
Gwisgoedd prom ysgol am ddim i geisio lleddfu pwysau ariannol

Mae ysgol yng Nghaerdydd yn ceisio lleddfu pwysau ariannol ar deuluoedd trwy roi gwisgoedd a ffrogiau prom yn rhad ac am ddim i ddisgyblion.
Mae’r gwisgoedd yn gallu bod yn gostus, ond mae Ysgol Uwchradd yr Helyg wedi sefydlu siop ddillad eu hunain ar gyfer plant yr ysgol.
Dywedodd pennaeth blwyddyn 11, Roisin Cherrette: “Rydyn ni’n gwybod bod prom yn anodd iawn i rieni oherwydd maen nhw eisiau gwneud yn siŵr bod eu plant yn y ffrogiau a’r siwtiau gorau felly rydyn ni’n gwybod y gall hyn fod yn dipyn o faich i rai.
“Roedden ni eisiau cymryd y baich hwnnw i ffwrdd i wneud y digwyddiad yn hygyrch i bawb.”
Yn yr wythnosau diwethaf ,mae siopau a phobl yn y gymuned leol yng Nghaerdydd wedi rhoi eitemau gan gynnwys ffrogiau, teis a bagiau.

Syniad James O'Brien, 16 oed, oedd sefydlu’r siop.
"Roeddwn i'n meddwl y dylai pawb gael cyfle teg - dim ots pa mor gyfoethog neu dlawd ydyn nhw. Mae'n caniatáu i bawb nawr fynd i'r ddawns. Dwi'n meddwl mai dyma'r peth gorau mae’r ysgol erioed wedi gwneud," meddai.
Dywedodd Flora Hiiko, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 11: “Mae hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr gan nad yw rhai plant yn gallu fforddio ffrogiau prom ac esgidiau."
Mae’r ysgol yn gobeithio y bydd gwisgoedd yn parhau i gael eu rhoi yn yr wythnosau cyn y ddawns er mwyn galluogi mwy o ddisgyblion i fynychu'r digwyddiad.